English / Cymraeg
Beth yw Her y Nadolig?
Cafodd Her y Nadolig ei sefydlu gan yr entrepreneur a’r dyngarwr Syr Alec Reed CBE. Dyma ymgyrch arian cyfatebol fwyaf y DU ac mae’n helpu elusennau sydd wedi eu cofrestru yn y DU i godi arian tuag at eu hachosion. Mae’n rhoi cyfle i gefnogwyr yr elusennau sy’n cymryd rhan gael dyblu eu cyfraniadau ar theBigGive.org.uk pan fydd yr ymgyrch yn mynd yn fyw ar #DyddMawrthRhoi, 28 Tachwedd 2017.
Ers i Big Give lansio’r ymgyrch yn 2008, mae Her y Nadolig wedi codi dros £78 miliwn ar gyfer dros 2,800 o brosiectau elusennol.
Mae ceisiadau ar gyfer Her y Nadolig 2017 bellach ar agor. I wneud cais, cliciwch ar y botwm isod a dilynwch y camau hyn:
- Creu cyfrif Big Give, am ddim, neu fewngofnodi os oes gennych chi un yn barod
- Clicio ‘Gwneud Cais am Her y Nadolig’ ar ochr dde dangosfwrdd eich cyfrif
- Dilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau ac anfon eich cais cyn dydd Gwener, 7 Gorffennaf
[tbg_button link=”https://secure.thebiggive.org.uk/charity” style=”btn-danger” size=”btn-lg”]BOTWM GWNEUD CAIS NAWR[/tbg_button]
Sut mae’n gweithio?
Ydw i’n gymwys i wneud cais?
I fod yn gymwys i wneud cais am Her y Nadolig 2017, rhaid i’ch elusen:
- fod wedi’i chofrestru yn y DU neu fod â statws eithriedig gan CThEM (mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin i Elusennau dan ‘Cofrestru ar y Big Give)
- bod wedi’i chofrestru ar org.uk ( cofrestrwch am ddim). Os yw eich elusen eisoes wedi’i chofrestru, gwnewch yn siŵr fod eich manylion cyswllt yn gyfredol er mwyn i chi dderbyn ein e-byst cyfathrebu am yr ymgyrch)
- Bod ag o leiaf un flwyddyn o gyfrifon ar ffeil ac incwm blynyddol o £25,000 neu ragor (yn ôl y cyfrifon diweddaraf ar ffeil)
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ddogfennau hanfodol Her y Nadolig.
Dyddiadau allweddol
- Cais Cam 1: 5 Mehefin – 7 Gorffennaf – 7 Gorffennaf (rhaid i chi gyflwyno Cam 1 erbyn 7 Gorffennaf er mwyn symud ymlaen)
- Cais Cam 2 (casglu addewidion): 5 Mehefin – 1 Medi
- Hysbysu: 18 Medi – 6 Hydref
- Her y Nadolig: 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr
Eiriolwyr sydd wedi’u Cadarnhau (arian cyfatebol wedi’i canfod gan y Big Give)
Rhagor i’w hychwanegu wrth i ni dderbyn cadarnhad – gwyliwch y gofod!
Enw Eiriolwr | Prosiectau a gefnogir | Cyfyngiadau |
---|---|---|
Cronfa Arian Cyfatebol Cymru (Y Gronfa Loteri Fawr) | Yn cefnogi prosiectau sy'n gweithio i wella lles pobl yng Nghymru. | Amherthnasol |
Eiriolwr Dienw | Prosiectau/Elusennau sy'n gweithio ar faterion hawliau dynol neu gyda ffoaduriaid a/neu cheiswyr lloches yn y DU neu dramor. | Bydd yn ystyried ceisiadau am gyllido heb gyfyngiad yn ogystal â rhai sy'n gysylltiedig â phrosiectau penodol |
Candis | Prosiectau iechyd ac anabledd yn y DU. | Amherthnasol |
Ethiopiaid | Cefnogi prosiectau sy'n lleihau tlodi yn Ethiopia, yn benodol gyda menywod a merched; gwella addysg; a/neu weithio gyda grwpiau agored i niwed neu rhai wedi'u hymyleiddio e.e. yr henoed, rhai ag anableddau, rhai sy'n dioddef o Noma a phlant amddifad a phlant agored i niwed | Amherthnasol |
Four Acre Trust | Supporting projects working Cefnogi prosiectau sy'n gweithio gyda phlant yn y DU gan elusennau sydd â throsiant o hyd at £1,000,000. | Bydd yn ystyried cyllido heb gyfyngiad. |
People's Postcode Lottery (Postcode Support Trust) | Cefnogi prosiectau sy'n gweithio i gefnogi pobl hŷn (dros 55) i gyfranogi'n llawn yn eu cymunedau, gan eu helpu i fyw bywyd hapusach a llawnach. | Ni fydd yn gallu cefnogi elusennau sydd eisoes yn derbyn arian gan yr Ymddiriedolaeth Cefnogi Codau Post. |
The Childhood Trust | Cefnogi prosiectau sy'n lliniaru effaith tlodi ar blant difreintiedig sy'n byw yn Llundain yn y ffyrdd canlynol: cwrdd ag anghenion ymarferol plant, cefnogi anghenion emosiynol plant ac ysbrydoli plant gyda phrofiadau a chyfleoedd newydd. | Amherthnasol |
The Coles-Medlock Foundation | Elusennau sy'n ffocysu'n rhyngwladol, yn enwedig rhai sy'n gweithio ym maes datblygu cynaliadwy (yn enwedig amaethyddiaeth gynaliadwy, addysg (4-14), datblygu isadeiledd, annibyniaeth ariannol a gofal iechyd) mewn gwledydd tlawd ar draws y byd. | Ni fydd yn ystyried ceisiadau ar gyfer cyllido heb gyfyngiadau/cyllido craidd. |
The Hospital Saturday Fund | Prosiectau cysylltiedig â iechyd: ysbytai, hosbisau a chlinigau meddygol, prosiectau cyfalaf meddygol, gofal neu ymchwil feddygol a chefnogi hyfforddiant meddygol yn y DU ac Iwerddon. | Bydd yn ystyried cyllido prosiectau costau craidd. Bydd yn darparu uchafswm o £10,000 o gyllid Eiriolwr i bob elusen. |
The Lake House Charitable Foundation | Prosiectau sy'n cefnogi ac yn gofalu am blant a phobl ifanc sâl a rhai dan anfantais yn ogystal â'r henoed yn y DU. | Ni fydd yn ystyried ceisiadau ar gyfer cyllido heb gyfyngiadau/cyllido craidd. |
The Reed Foundation (Arts & Culture) | Cefnogi prosiectau celfyddydau perfformio a phrosiectau diwylliannol. | Amherthnasol |
The Reed Foundation (Environment & Animals) | Cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd a gwella lles anifeiliaid. | Amherthnasol |
The Reed Foundation (International) | Cefnogi prosiectau dyngarol a datblygu mewn gwledydd sy'n datblygu. | Amherthnasol |
The Reed Foundation (UK) | Cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella bywydau a lles pobl yn y DU. | Amherthnasol |
The Waterloo Foundation | Cefnogi elusennau yn Affrica ac Asia sy'n helpu'r rhai difreintiedig yn economaidd i adeiladu sail ffyniant cynaliadwy, yn bennaf drwy wella addysg a mynediad i ddŵr, iechydaeth a hylendid mewn gwledydd sy'n datblygu. | Bydd yn ystyried ceisiadau am gyllid heb gyfyngiadau yn ogystal â rhai sy'n gysylltiedig â phrosiectau penodol. Bydd yn darparu uchafswm o £15,000 o gyllid Eiriolwr i bob elusen. |
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau ar gyfer Her y Nadolig 2017 yn awr ar agor yn ardal cyfrifon elusennau’r Big Give (mewngofnodi / cofrestru). Cofiwch bod rhaid i Geisiadau Cam 1 fod wedi eu cwblhau erbyn dydd Gwener, 7 Gorffennaf.