English / Cymraeg
Dyblu eich cyfraniadau
Her y Nadolig yw ymgyrch arian cyfatebol fwyaf y DU a gall helpu eich elusen i godi nwy o arian y Nadolig hwn. Yn ein profiad ni, mae arian cyfatebol yn cynnig manteision enfawr i’ch sefydliad chi.
Pam dylech chi gymryd rhan?
- Sicrhau cyllid ychwanegol drwy gyfrwng Eiriolwr sy’n cael ei ganfod gan y Big Give
- Cymell eich cyfranwyr drwy gynnig dyblu eu cyfraniadau
- Gwneud y gorau o’ch gwaith codi arian drwy gynnal yr ymgyrch hon adeg y Nadolig pan mae rhoddwyr ar eu mwyaf hael.
- Medi’r cynhaeaf sy’n cael ei gynnig gan arian cyfatebol: mae ymchwil wedi dangos bod 84% o roddwyr yn fwy tebygol o roi mewn ymgyrch arian cyfatebol; mae 36% o roddwyr yn debygol o gyfrannu mwy (Walker, 2016).
- Dod â ffrydiau cyllido at ei gilydd drwy redeg ymgyrch sy’n gallu cynnwys ymddiriedolaethau/sefydliadau, corfforaethau ac unigolion.
- Sicrhau rhoddwyr mawr newydd sy’n gallu gweithredu fel Addunedwyr a chael trosoleddu eu cyfraniad hyd at 4 gwaith.
- Cynyddu eich incwm drwy Rodd Cymorth: mae 86% o’r cyfraniadau sy’n cael eu rhoi yn ystod Her Y Nadolig yn destun Rhodd Cymorth.
- Derbyn offer a chefnogaeth gan y tîm Big Give i’ch helpu i gynnal ymgyrch lwyddiannus.
- Ymuno â mudiad rhoi cenedlaethol wrth i’r ymgyrch lansio ar #DyddMawrthRhoi.
Sut mae cymryd rhan?
Mae manylion ein hymgyrch eleni ar gael ar ein tudalen Her Y Nadolig.